Mwy Am Alun Ffred Jones
Wedi graddio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor bu’n athro Cymraeg a phennaeth adran yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug. Yn 1980 ymunodd a HTV yng Nghaerdydd fel newyddiadurwr a chyflwynydd. Symudodd i Gaernarfon yn 1982 i weithio yn y diwydiant teledu annibynnol gyda Ffilmiau’r Nant, un o’r cwmniau mwyaf yn y sector. Daeth yn gyfarwyddwr y cwmni a bu’n gweithio fel cynhyrchydd, awdur a chyfarwyddwr ar lawer o raglenni mwyaf llwyddiannus y sianel.
Yn 1992 etholwyd Alun yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeisdref Arfon a daeth yn Arweinydd Cyngor Gwynedd yn dilyn yr ad-drefnu; o 1996 - 2003. Cafodd ei ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2003 a bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad cyn cael ei ddewis yn llefarydd y Blaid ar ddatblygu economaidd yn 2006.
Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn datblygu cymunedol, a bu’n gadeirydd Antur Nantlle ers 1992, cwmni di-elw sy’n ceisio adfywio pentrefi Dyffryn Nantlle. Mae Antur Nantlle yn gyn enillydd gwobr Cymru fel y cwmni cymunedol gorau. Mae hefyd yn Gadeirydd Clwb Peldroed Dyffryn Nantlle.
