10 Cwestiwn ac Ateb
Cyfle i Holi Alun Ffred Jones
Beth fydd yn wahanol yn y Cynulliad ar ôl mis Mai?
Am y tro cyntaf ers canrifoedd mi fydd gan Gymru rywfaint o hawl i wneud ei deddfau ei hun – hawliau cyfyngedig, ond yn gam mawr ymlaen.
Ydi hynny’n bwysig yn yr etholiad?
Yn bwysig iawn. Rhaid gofyn pa blaid fydd yn gwneud y defnydd gorau o’r pwerau newydd. Y dewis ydi llywodraeth Lafur flinedig arall sy’n methu gweld yn bellach na Chaerdydd, neu lywodraeth egniol, efo syniadau newydd, yn cael ei harwain gan Blaid Cymru.
Pa wahaniaeth wneith hynny i Arfon?
Gwahaniaeth mawr. Mi fydd Llywodraeth Plaid Cymru yn gofalu rhoi sylw i anghenion y Gogledd a’r wlad gyfan, nid canoli popeth o gwmpas coridor yr M4.
Beth am fanylu ar rai o’r polisïau?
Iechyd, er enghraifft? Yn lleol, rhaid diogelu statws Ysbyty Gwynedd a datblygu adrannau newydd fel niwroleg a thriniaethau’r galon, i roi gwasanaeth llawn i ogledd orllewin Cymru. Yn genedlaethol, creu system fwy effeithlon a llai biwrocrataidd. Mae Llafur wedi creu mwy na 50 o wahanol gyrff i ofalu am iechyd yng Nghymru.
Mae yna lawer o bryder ynglyn a chyfraith a threfn. Sut byddech chi’n tawelu meddyliau pobol?
Llai o fiwrocratiaeth a mwy o blismyn ar y bit. Rheoli gor-yfed. Ariannu teg i Heddlu Gogledd Cymru, sy’n cael £25 y pen yn llai o gyllid na Heddlu’r De.
Mae cael lle i fyw hefyd yn boendod, yn enwedig i’r ifanc. Sut byddai Plaid Cymru’n gwella pethau?
Grantiau o hyd at £5,000 i helpu prynwyr tro cyntaf i godi ernes ar dy. Newid rheolau cynllunio i’w gwneud hi’n haws i bobol leol gael caniatâd i godi tai. Sefydlu Corfforaeth Dai Genedlaethol i godi tai ar gyfer eu rhentu.
O ble daw’r arian i dalu am hyn i gyd?
Mae’n gwbl ymarferol gwneud hyn o fewn tymor pedair blynedd y Cynulliad. Mae’n bosib arbed llawer trwy dorri biwrocratiaeth a dileu gwastraff Llafur. Rhaid pwyso hefyd am fwy o arian i’r Cynulliad o Lundain – o dan Fformiwla Barnett, mae Cymru’n cael rhwng £600 miliwn ac £800 miliwn yn llai na’i haeddiant. Edrych ar ddulliau ble gallllywodraethau fenthyca arian ar logau is na’r PFI sydd mor boblogaidd gan Lafur. A byddai’n cynlluniau i adfywio busnesau yn creu mwy o gyfoeth.
Beth all llywodraeth Plaid Cymru ei wneud i greu gwaith yn yr ardal?
Creu amodau gwell i gwmniau, gan gynnwys lleihau’r dreth fusnes. Gwneud y gorau o’n hadnoddau – penderfyniad buan ar Glyn Rhonwy a Ferodo.
Oes a wnelo materion fel Irac ac arian am anrhydeddau unrhyw beth ag etholiadau’r Cynulliad?
Does gan y Cynulliad ddim cyfrifoldeb dros faterion felly. Ond mae’n deg gofyn all rhywun ymddiried mewn plaid a anfonodd filwyr dewr o Gymru i ymladd mewn rhyfel oedd yn seiliedig ar gelwyddau. Y Blaid Lafur ganolog sy’n rhedeg llawer o’r ymgyrchu yng Nghymru, ac mae’n bosib fod peth o’r arian a dalwyd am anrhydeddau yn cael ei wario ar yr ymgyrch Lafur yma yn Arfon.
Plaid i bwy ydi Plaid Cymru?
Plaid gynhwysol ar gyfer unrhyw un sy’n byw yng Nghymru. Allan o’r pedwar ymgeisydd ar restr ranbarthol y Gogledd dim ond un a anwyd yng Nghymru – ganwyd y lleill yn Sunderland, Derby a Bangladesh.