Alun Ffred Jones yn gweithio dros gwell gwasanaeth iechyd i bobl Arfon
Mae ‘na gynllun i symud Ward Heulwen o Ysbyty Gwynedd i Langefni. Dyma’r ward sy’n asesu’r henoed i benderfynu pa driniaeth maen nhw ei angen. Dau sy’n gwrthwynebu hyn ydi John ac Elina Owen, Bethesda. Fel gweinidog mae’r Parch John Owen yn mynd i weld cleifion yn Ward Heulwen yn aml.
“Mi fasa hyn yn gwneud petha’n anodd ofnadwy i bobol o Arfon a Phen Llyn - mae’n ddigon o broblem iddyn nhw gyrraedd Bangor heb sôn am Langefni os ydyn nhw’n dibynnu ar fysus ac ati,” meddai.
Dywed Alun Ffred Jones:
Mae’n amlwg bod hwn yn argymhelliad byrbwyll gan yr awdurdodau iechyd ac mi fydda i’n gwneud fy ngorau i’w perswadio nhw i ail feddwl.
Rhaid Cadw’r Ward Henoed ym Mangor.
Mae gwasanaeth iechyd da yn costio arian. Ond dim byd tebyg i’r biliynau mae’n trethdalwyr ni’n ei dalu am ryfel Irac, ac y bydd Blair a Brown yn disgwyl i ni dalu am arfau niwclear i gymryd lle Trident.
DISGWYL ADRODDIAD I HELYNT DŴR LLYN CWELLYN
Bu Alun Ffred yn brysur ddechrau’r flwyddyn yn ymgyrchu dros fynd i wraidd problem yr haint cryptosporidium yng nghronfa ddŵr Llyn Cwellyn. Wrth inni fynd i’r wasg mae’r adroddiad ar y broblem ar fin cael ei gyhoeddi, ond mae pethau wedi gwella ers i Dŵr Cymru osod peiriant uwch-fioled yn y llyn.