Gofal iechyd yng ngogledd Cymru
TRINIAETH Y GALON
Mae Pat Larsen yn un o gannoedd o bobl Arfon sydd wedi gorfod teithio i Fanceinion i gael triniaeth y galon. “Mae’r gwasanaeth yno’n wych ond mae’r daith yn hir ac mae’n anodd cael lle yno â’r rhestrau aros mor hir,” meddai.
Dywed Alun Ffred:
Mae’n rhaid inni gael uned angiography ar unwaith i Ysbyty Gwynedd a gofalu yn y pen draw y bydd triniaeth lawn ar gael yma ym Mangor.
Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr y Gogledd wedi profi ei werth. Mi ddylai’r llywodraeth dalu’r gost sylfaenol am ei gynnal, a’r gwaith gwirfoddolol gwych yn dal i dalu am bethau ychwanegol.
GWARIO MWY—OND AI GWARIO CALL?
Mae’r gwario ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi dyblu – ond dydi’r rhai sy’n dibynnu arno ddim wedi gweld digon o wahaniaeth.
Dywed Alun Ffred:
Y broblem ydi bod llawer o’r arian yn cael ei wastraffu ar fiwrocratiaeth, ar ôl i Lywodraeth Lafur y Cynulliad greu 22 o fyrddau iechyd lleol diangen.
Rŵan maen nhw am symud 70 o swyddi cyhoeddus gwerthfawr o Ysbyty Gwynedd i Brestatyn. Mae’r duedd yma o symud popeth tua’r Dwyrain yn rhywbeth mae’n rhaid i ni yn Arfon ymladd yn ei erbyn.
DEINTYDDION
Gwynedd ydi’r sir â lleia o bobol efo deintydd NHS. Dwi’n cyfarfod llawer sy’n ei chael hi’n amhosib talu am driniaeth. Mae’n dda cael deintyddfa newydd yng Nghaernarfon ond mae angen llawer mwy.