Gwaith i Fangor ac Ogwen
WIGLEY’N CROESAWU DATBLYGU’R ORSAF
Mae cynlluniau i wella cysylltiadau bws a pharcio yng ngorsaf Bangor wedi cael sel bendith ymgeisydd rhestr Plaid Cymru Dafydd Wigley.
Dywedodd Alun Ffred Jones:
Rydw i’n falch iawn bod y cynlluniau wedi eu gwneud pan oeddwn i’n arweinydd Cyngor Gwynedd. Mae gwella cysylltiadau De Gogledd - yr A470, a threnau cyflymach - yn un o flaenoriaethau Plaid Cymru.
‘PRIFYSGOL Y BOBL’ YN GYFLE I GREU GWAITH YM MANGOR
Gallai datblygu ‘Canolfan Ddarganfod’ wedi ei leoli yn Llyfrgell Gyhoeddus Bangor fod yn hwb i economi yn ogystal â diwylliant yr ardal, yn ôl Alun Ffred Jones.
Dywedodd:
Mae’r cydweithredu rhwng Cyngor Gwynedd a’r Brifysgol yn y fenter yma yn creu cyfleoedd cyffrous. Dwi’n croesawu’r bwriad i gynnwys canolfan addysg a gwybodaeth agored i bawb. Gall ddatblygu’n ‘Brifysgol y Bobl’, wedi’i gwreiddio yn y gymuned, yn helpu i greu swyddi ansawdd uchel.
Fel un fu’n fyfyriwr yn y Brifysgol rydw i’n dymuno’n dda i’r fenter ac mi wnaf unrhyw beth alla i i sicrhau ei llwyddiant.
TRETHI’N LLETHU BUSNESAU BACH
Mae Mrs Pat Hamilton, sy’n cadw caffi ym Methesda wedi bod yn son wrth Alun Ffred Jones am ei phryder ynglyn â’r dreth fusnes newydd. Mae Blas ar Grystyn yn un o tua 400 o fusnesau bach yng Ngwynedd a all ddioddef o achos y ffordd mae Llywodraeth Lafur y Cynulliad wedi newid y cynllun lliniaru trethi. Mae’r golled i fusnesau Gwynedd yn debyg o fod yn agos at £1 miliwn i gyd.
Dywedodd Alun Ffred Jones:
Dyma enghraifft arall o sut mae Llafur yng Nghaerdydd allan o gysylltiad efo ardaloedd fel Ogwen a Bangor.