Heddlu Gogledd Cymru
RHEOLI ALCOHOL
Byddai rheoli’r defnydd o alcohol yn fanteisiol iawn i’n gwasanaeth iechyd yn ogystal ag i ddiogelwch ein cymunedau. Mae Plaid Cymru’n cefnogi galwad Coleg Brenhinol y Nyrsys ar i Lywodraeth y Cynulliad ddatblygu strategaeth benodol gyda chyllid digonol ar gyfer lleihau’r defnydd o alcohol yng Nghymru.
YN ÔL I’R STABAL!
fo’r holl doriadau yng nghyllid yr heddlu mae’n bwysig bod yr arian yn cael ei ddefnyddio’n gall. Fedra i ddim cytuno efo cynllun diweddar y Prif Gwnstabl i sefydlu adran geffylau. Roedd adroddiadau fod uned heddlu marchog a ddaeth i Gonwy cyn y Nadolig yn costio £1300 y shift. Byddai 15 o shifftiau felly yn talu am un plismon ychwanegol am flwyddyn gron.
HELPU’N POBL IFANC
Rydyn ni’n rhy barod i feirniadu pobl ifanc am falu a chodi twrw. Lleiafrif sy’n gyfrifol am ymddygiad gwrth gymdeithasol. Os ydi pobl yn teimlo wedi eu dieithrio, rhaid i ni roi cyfle iddyn nhw godi eu hunan hyder a’u balchder. Dyna ran o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan dimau Cymunedau’n Gyntaf yn Arfon.
LLYWODRAETH YN BYGWTH Y CYNLLUN SWYDDOGION CYMUNEDOL
Yn wreiddiol, roedd y llywodraeth Lafur yn mynd i ariannu 280 o swyddogion diogelwch cymunedol i gefnogi gwaith yr heddlu. Ond heb rybudd mae Llafur wedi newid eu meddyliau a haneru’r nifer.
Ac i wneud pethau’n waeth, mae llawer o blismyn cymunedol - CBM’s - yn cael eu symud o’r gymuned i wneud gwaith swyddfa o achos diffyg yng ngrant y llywodraeth. Dylai’r heddlu fod allan ar y stryd nid yn ateb y ffôn.
Nid dyma beth mae’r cyhoedd eisiau. Nid dyma beth ydan ni’n ei haeddu, ac yn talu amdano.
CEFNOGI’R HOGIA (A’R GENOD) MEWN GLAS
Dros y Nadolig mi fum i’n treulio rhai dyddiau allan hefo’r heddlu yn dod i wybod mwy sut maen nhw’n gweithio a’r problemau sy’n eu hwynebu. Gallwn fod yn falch o’r pwyslais sydd wedi ei roi yng Ngogledd Cymru ar heddlu yn y gymuned, ac ar y gwaith da sy’n cael ei wneud gan swyddogion. Ond mae ‘na rai problemau, fel cyllid, y mae’n rhaid i ni fel gwleidyddion fynd i’r afael â nhw.