Tai Fforddiadwy
SUT BYDDAI’R BLAID YN HELPU TEULUOEDD IFANC I GAEL EU CARTREF EU HUNAIN
Mae cwpl ifanc o Gaernarfon, Iwan a Danielle a’u merch 11-mis oed Eliya yn byw efo rhieni Iwan, ond yn trio prynu cartref eu hunain. Maen nhw wedi gweld llawer o dai ond yn methu codi digon o arian i dalu’r deposit. Yn ddiweddar mi wnaethon nhw gynnig am dy, ond cael eu ‘gasympio’ gan bobl oedd yn cynnig pris uwch.
ADDEWID Y BLAID: HYD AT £5000 I BRYNWYR TRO CYNTAF
Efo lefel incwm ymhlith yr isaf ym Mhrydain, a’r cynnydd ym mhris tai yn un o’r rhai uchaf, mae gan Arfon lawer o deuluoedd yn yr un sefyllfa. Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru’n rhoi grant o hyd at £5,000, punt am bunt, i helpu prynwyr tro cyntaf i godi hyd at £10,000 o flaendal ar dy.
Dywedodd Iwan: “Tasa’r cynllun yma mewn bod mi fasan ni yn ein cartre’n hunain rwan.”
Dywedodd Danielle: “Yn wahanol i rai, rydan ni’n lwcus bod gynnon ni le iawn i fyw, ond dydio ddim yr un fath â chael lle i ni’n hunain. Mi fydda’r grant yma’n ein helpu ni i gael ein troed ar yr ystol a dechrau prynu ty.”
Dywedodd Alun Ffred:
Mae cyfartaledd pris ty yng Nghymru fwy na phum gwaith yn uwch na’r cyfartaledd cyflog. Mae nifer y bobl ifanc sy’n medru prynu eu tai wedi disgyn 20% yn y flwyddyn ddiwetha.
Mae’r Blaid yn benderfynol o helpu pobol fel Danielle ac Iwan. Byddai llywodraeth dan arweiniad y Blaid yn dod a gobaith newydd i’r genedl - nid yn y dyfodol pell ond yn fuan ar ôl etholiadau mis Mai.
Mae Llafur yn gwario llai ar gartrefi heddiw na 10 mlynedd yn ôl. Dim rhyfedd bod tai a fflatiau ar rent yn brin ofnadwy. Ac mae pobl yn Arfon yn dioddef.
POLISI TORIAIDD LLAFUR YN GOLYGU DIM LLE AR RENT
Mae David a’i bartner Jane a’u merch 7 mis oed yn byw mewn fflat un llofft ym Mangor, ac yn dyheu am le mwy. Ond ychydig o lefydd ar gyfer rhentu sy’n cael eu codi, ac mae rheolau’r Llywodraeth yn golygu fod gan deuluoedd fel nhw, sydd ddim yn cael eu cyfri’n ddigartre, rhy ychydig o bwyntiau i gael cartref.
Neu cymerwch Peter. Mae wedi cael ysgariad ac yn byw efo’i fab 12 oed yn nhy cyngor ei rieni. Dydi o’n gweld fawr o obaith cael lle iddo’i hun.
Mae llawer o’r problemau yma’n digwydd oherwydd bod Llafur wedi parhau polisi’r Toriaid o werthu tai cyngor. Er bod hyn wedi rhoi cyfle i rai pobol ddod yn berchen tai, dydi’r arian a godwyd ddim wedi cael ei ddefnyddio i godi tai newydd, yn lle’r rhai a werthwyd. Felly mae’r stoc o dai ar rent yn mynd yn llai bob blwyddyn.
Byddai Plaid Cymru’n atal gwerthu tai cyngor mewn llefydd lle mae prinder cartrefi, hyd nes bod rhaglen newydd o godi tai a fflatiau ar gyfer eu rhentu yn ei le.
ARGYFWNG TAI: ALUN FFRED YN CYNNIG SYNIADAU NEWYDD
Mae Alun Ffred Jones a Phlaid Cymru’n cynnig syniadau newydd i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, sy’n waeth yn Arfon nag yn y rhan fwyaf o Gymru. Yn ystod ei gyfnod fel cynghorydd, ac yna fel yr Aelod Cynulliad uchel ei barch dros Gaernarfon, mae Alun Ffred wedi cymryd diddordeb arbennig mewn materion tai.
Mae’n credu y dylai rheolau cynllunio gael eu gwneud yn llawer mwy hyblyg er mwyn ateb anghenion lleol. Byddai hynny’n cynnwys:
- Newid y rheolau er mwyn helpu pobl leol i godi tai am brisiau rhesymol mewn ardaloedd gwledig.
- Mynnu fod rhaid cael caniatad cynllunio ar gyfer troi tai lleol yn gartrefi gwyliau.
Dywedodd Alun Ffred:
Mae pobl wedi bod yn siarad am y problemau yma ers blynyddoedd, ond ychydig iawn o weithredu ydan ni wedi’i weld.
Mae Plaid Cymru’n benderfynol o gymryd camau pendant i ddiogelu dyfodol ein cymunedau. Mae hwn yn faes lle mae polisiau Llafur wedi bod yn drychinebus, ac mi fydda Llywodraeth yn cael ei harwain gan Blaid Cymru yn medru gwneud gwahaniaeth go iawn.
BLAENORIAETHAU LLAFUR
Gwariant ar dai cyhoeddus yng Nghymru:
1999-2000 - £446.6 miliwn
2004-05 - £354 miliwn
Amcangyfrif cost Trident newydd - £25-£40 biliwn
CADW’N GYNNES
Yn Arfon y mae rhai o’r tai hynaf ac oeraf yng Nghymru. Does gan fwy na hanner y tai ddim gwres canolog—y nifer uchaf yng Nghymru. Ond mae’r arian ar gyfer adnewyddu hen dai wedi mynd i lawr bob blwyddyn dan Lafur.
Mae Plaid Cymru eisiau sefydlu cynllun cenedlaethol i wneud ein tai’n gynhesach, arbed ar filiau gwresogi—a helpu i arbed y blaned. Byddai hyn yn cynnwys:
- Cynnig cyngor ar arbed ynni a rhedeg ymgyrch i hybu’r syniad
- Dod â grantiau digonol ar gyfer gwella tai fel rhan o strategaeth arbed ynni.
Byddai hyn yn gwneud ein bywydau ni’n iachach a mwy cysurus, a gwneud y byd yn lle mwy diogel ar gyfer y cenedlaethau a ddaw.
PEIDIWCH Â CHOLLI’R TRÊN – GYRRWCH Y TÎM CRYFA I GAERDYDD!
Os ydych chi’n hoffi polisiau Plaid Cymru ar dai neu faterion eraill, mi allwch ein helpu ni i’w gweithredu nhw trwy bleidleisio i’r Blaid ddwywaith yn etholiadau’r Cynulliad ym Mai. Wrth roi pleidlais i Alun Ffred Jones ar y papur pleidleisio cynta ac i Blaid Cymru yn yr ail, mi fyddwch yn helpu i yrru’r cawr gwleidyddol Dafydd Wigley yn ôl i’r Cynulliad fel Aelod rhanbarthol. Does dim rhaid dweud cymaint o fantais fyddai hyn i lais gwleidyddol Arfon a’r Gogledd yn gyffredinol.
Byddwch hefyd yn helpu Plaid Cymru i ffurfio llywodraeth fywiog yn lle’r un Lafur flinedig sydd yno rwan.